Mae darpariaeth dydd cynhwysol yn llawn gweithgareddau cymdeithasol a gynigir o ddydd Llun i ddydd Gwener i oedolion ifanc ag anghenion ychwanegol. Rydym yn annog ac yn cefnogi'r aelodau i fod yn gyfrifol ac arwain y diwrnod eu hunain, gan fagu hyder, cyfeillgarwch a sgiliau gydol oes.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau hwyliog a chyffrous, o gerddoriaeth yn stiwdio recordio y ganolfan, i Bollywood dawnsio, drama, garddio, sinema, bowlio, coginio, chwaraeon, prosiectau personol o'u dewis, a llawer mwy.
Rydym hefyd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu anffurfiol, megis teithio ar fysiau, diogelwch ar y ffyrdd, ein hamgylchedd, ffyrdd iach o fyw a lles, gwleidyddiaeth, byw'n gynaliadwy, a hylendid bwyd.
Mwy o wybodaeth
Manylion Cyswllt
Rheolwr Darpariaeth Dydd Cynhwysol: Hannah Hudd (Hannah.Hudd@cathays.org.uk)
Swyddfa Canolfan Gymunedol Cathays: 02920373144, email@cathays.org.uk
Pryd a lle
10 AM – 4 PM | Dydd Llun i ddydd Gwener, yn y Brif Neuadd
52 wythnos y flwyddyn
Pris
Am bris cysylltwch â ni ar 02920 373144.
Mae cymorth 1:1 gyda chost ychwanegol ar gael hefyd.
Grŵp oedran
18+
Angen archebu ymlaen llaw